Y mae hi yn hynod anodd i raddio llwybrau beicio mynydd. Y mae yna nifer o ffactorau gwahanol yn medru effeithio y gradd ogystal â newidiadau parhaus yn natur y llwybrau. Rydym yn teimlo ei bod yn fanteisiol i roi 2 raddfa gwahanol i bob llwybr. Un ar gyfer ffitrwydd – pa mor galed yw y llwybr ar gyfer y beiciwr, ac yr un arall ar gyfer sgil – pa mor dechnegol yw y llwybr. Rhoddir diffiniad llawn isod. Er nad yw y system hwn yn hollol drwyadl a dylid ei ddefnyddio fel canllaw yn unig, gobeithiwn y bydd yn eich galluogi I ddewis llwybr sydd yn addas ar eich cyfer.
Lefel Sgil
Dechreuwr
Llwybr sydd yn isel o ran anhawster technegol. Dim profiad beicio oddi ar y ffordd yn angenrheidiol. Yn gyffredinol bydd y llwybrau yn dilyn traciau da.
Canolradd
Llwybr sydd â darnau technegol anodd. Byr a ddim yn para. Bydd y tir yn rhydd a chreigiog mewn mannau. Angen peth profiad reidio oddi ar y ffordd.
Uwch
Llwybr yn cynnwys darnau anodd hir a thechnegol. Dringfeydd a disgynfeydd serth dros dir rhydd a chreigiog. Profiad beicio oddi ar y ffordd yn hanfodol.
Dewiswch o`r lefel o ffitrwydd canlynol
Llwybrau hawdd
Llwybr yn addas ar gyfer pobl a lefel cymharol o ffitrwydd mewn iechyd da. Llwybrau yn gyffredinol wedi cael eu cysgodi ar lefel is gyda nifer isel o ddringiadau am bellter.
Llwybrau canolig
Llwybr sydd mewn rhannau yn heriol. Y mae yn cynnwys dringiadau sydd yn egnïol ond yn eithaf byr. Y mae angen safon da o ffitrwydd. Llwybrau lefel uchel a all fod yn agored i’r elfennau.
Llwybrau caled
Llwybr heriol. Dringo hir drwyddi draw. Llwybrau lefel uchel sydd yn aml yn agored i’r elfennau. Y mae lefel uchel o ffitrwydd yn angenrheidiol.
Llwybrau du
Llwybrau gyda rhannau serth a nodweddion technegol mwy heriol. Y mae y llwybrau yma wedi cael ei cynllunio ar gyfer beicwyr mynydd sydd wedi arfer gyda llwybrau sy’n her gorfforol.