Your search results

Mynediad Cyfrifol

Meddwl am eich antur nesaf yng Nghymru? Gall ein beicwyr gael effaith gwirioneddol ar y rhostir – gobeithio y byddwch chi’n dewis cael effaith gadarnhaol.

  • Dilynwch lwybrau a ddiffiniwyd, cyfeirbwyntiau neu fapiau.
  • Peidiwch ag achosi erydiad na difrod trwy adael y llwybr.
  • Mwynhewch fyd natur ond peidiwch ag amharu ar fywyd gwyllt. Gwarchodwch blanhigion ac anifeiliaid.
  • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw. Peidiwch â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad ac ewch â’ch sbwriel adref gyda chi.
  • Cadwch gŵn dan reolaeth effeithiol a chymerwch y llwybr mwyaf diogel o amgylch anifeiliaid fferm, yn enwedig os oes ganddynt anifeiliaid ifanc.

 

Rhostir Grugog

Ffaith: Mae rhostir grugog yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt sydd yn ddibynnol ar y cynefin, gan gynnwys Cacynen y Llus, Glöyn Byw Brithribin Gwyrdd, Ehedydd, Cwtiad Aur a Bod Tinwen.

Ffaith: Mae dros 75% o boblogaeth y Rhugair Ddu yng Nghymru i’w ganfod yma ar rostir Rhiwabon.

Ffaith: Mae 75% o rostir grugog y byd i’w ganfod yma yn y DU. Mae gennym gyfrifoldeb tuag at ei iechyd a’i gynhyrchiant.

Pam ein bod ni’n pryderu?

Mae sawl rhywogaeth o adar rhostir yn nythu ar y ddaear yn y cynefin lefel isel yma. Mae’r nythod mewn perygl o gael eu sathru neu eu haflonyddu, sy’n golygu y gallai’r cywion bach fod yn agored i ysglyfaethu neu’r tywydd.

Beth allwch chi ei wneud?

Arhoswch ar y llwybrau; mae defnyddio’r rhostir mewn modd ystyriol yn sicrhau llwyddiant parhaus y rhaglenni bywyd gwyllt sydd gennym ar waith.

Trwy feicio ar y llwybrau a ddiffiniwyd i mewn ac allan o Landegla mae aflonyddu a chreu difrod yn isel. Enw arall ar ran y llwybr ceffylau ar Lwybr Clawdd Offa ydi “Y Byrddau”.

 

Sgri

Ffaith: Mae sgarpiau sgri calchfaen yn dirffurfiau bregus rydym yn eu cadw mewn cyflwr mor naturiol â phosibl. Mae rhai o’r enghreifftiau gorau ym Mhrydain i’w gweld yng ngogledd Cymru!

Ffaith: Yn ogystal â bod yn gartref i blanhigion sydd yn ffynnu ar galch megis Llin y Tylwyth Teg a Phig yr Aran Ruddgoch, maent yn denu peillwyr pwysig megis y Fritheg Berlog.

Heb frolio – ond mae un o goed mwyaf prin y DU yn cuddio yn y craciau ar ein clogwyni sgri. Mae Cerddinen Seisnig – math o gerddinen wen i’w chanfod yma, rhan o’r llai na 250 o sbesimen sydd yn bodoli.

Pam ein bod ni’n pryderu?

Mae’r gwaith o gynnal a chadw’r llwybr yma wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf…ac o ganlyniad…

Beth allwch chi ei wneud?

Arhoswch ar y llwybr a ddiffiniwyd ar draws llwybr ceffylau’r rhostir ac ar hyd y lonydd tawel mewn i Langollen. Nid yw’r sgri yn addas ar gyfer beiciau a gallai parhau i’w ddefnyddio arwain at golli’r llwybr yma am byth.

 

Mawn

Ffaith: Efallai mai’r sylfaen mawn sydd o dan ein rhostir yw ein hased pwysicaf.

Ffaith: Mae mawn yn creu amgylchedd sydd yn anhygoel o gyfoethog ar gyfer nifer o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, ond mae’n gyfansoddyn bregus o’n tirwedd unwaith y caiff y llystyfiant ei golli.

Pam ein bod ni’n pryderu?

Ni all haen o fawn sydd wedi erydu gefnogi’r fflora a ffawna, mae’n rhyddhau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill sydd yn cyfrannu at newid hinsawdd. Mae hefyd yn golygu na all gyflawni ei swydd naturiol o gadw dŵr ac atal llifogydd dŵr wyneb.

Beth allwch chi ei wneud?

Mae gofyn i ddefnyddwyr y llwybrau gadw at lwybrau a ddiffiniwyd yn golygu y gall mawndiroedd iach gefnogi amrywiaeth o gynefinoedd, storio’r carbon a rhagor o ddŵr glaw a chwarae rhan bwysig wrth gadw safon ein dŵr yn uchel.

  • Chwilio am Lwybr

  • Mynediad Cyfrifol

    • Ffeithiau Rhostir Grug
      Mae rhostir grugog yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt sydd yn ddibynnol ar y cynefin, gan gynnwys Cacynen y Llus, Glöyn Byw Brithribin Gwyrdd, Ehedydd, Cwtiad Aur a Bod Tinwen.