Your search results

Rheolau`r Llwybr

Mae’r ffordd rydym yn beicio heddiw yn llywio mynediad i lwybrau beicio mynydd ‘fory. Chwaraewch eich rhan warchod a gwella mynediad i’n camp a’i ddelwedd trwy gadw at y rheolau canlynol, a luniwyd gan IMBA, y Gymdeithas Beicio Mynydd Ryngwladol. Mae’r rheolau hyn yn cael eu cydnabod ledled y byd fel côd ymarfer safonol ar gyfer beicwyr mynydd. Cenhadaeth IMBA yw hyrwyddo beicio mynydd sy’n amgylcheddol briodol a chyfrifol yn gymdeithasol.

1. Beicio ar lwybrau agored yn unig.

Dylech barchu lwybrau a ffyrdd sydd ar gau (gofynnwch os oes amheuaeth); dylech osgoi trespasu ar dir preifat; gofynnwch am drwyddedau neu awdurdod arall sydd ei angen. Bydd y ffordd rydych yn beicio yn dylanwadu ar benderfyniadau a pholisïau rheoli llwybrau.

2. Peidiwch â gadael eich ôl.

Byddwch yn sensitif i’r pridd dan eich olwynion. Dysgwch adnabod gwahanol fathau o bridd ac adeiladwaith llwybrau, ac ymarfer beicio effaith isel. Mae llwybrau mwdlyd a gwlyb yn haws eu niweidio. Os yw gwely’r llwybr yn feddal, ystyrich opsiynau reidio eraill. Mae hyn hefyd yn golygu aros ar lwybrau sy’n bodoli eisoes a pheidio â chreu rhai newydd. Peidiwch â thorri ar draws igam-ogam. Sicrhewch eich bod yn pacio cymaint allan ag yr ydych yn ei bacio i mewn.

3. Rheoli eich beic!

Gall diffyg talu sylw am eiliad yn unig achosi problemau. Ufuddhewch bob rheol ac argymhelliad beicio.

4. Ildiwch i eraill ar y llwybr.

Gadewch i gyd-ddefnyddwyr wybod eich bod ar eich ffordd. Mae cyfarchiad cyfeillgar neu ganu cloch yn briodol ac yn gweithio’n dda: peidiwch â dychryn eraill. Dangoswch eich parch pan yn pasio trwy arafu neu hyd yn oed stopio. Byddwch yn barod am ddefnyddwyr eraill y llwybr o gwmpas corneli neu mewn mannau ‘dall’. Mae ildio yn golygu arafu, cyfathrebu, bod yn barod i stopio os oes angen a phasio yn ddiogel.

5. Peidiwch byth â dychryn anifeiliaid.

Mae pob anifail yn dychryn os oes symudiad sydyn neu swn uchel. Gall hyn fod yn beryglus i chi, eraill a’r anifeiliaid. Caniatewch le ychwanegol i anifeiliaid a rhoi amser iddynt arfer efo chi. Pan yn pasio ceffylau, cymerwch ofal arbennig a dilyn cyfarwyddiadau gan y marchogion (gofynnwch os nad ydych yn siwr). Mae achosi i wartheg redeg ac aflonyddu ar fywyd gwyllt yn drosedd ddifrifol. Gadewch gatiau fel y maent, neu yn unol ag unrhyw arwyddion.

6. Cynlluniwch ymlaen llaw.

Dylech fod yn gyfarwydd gyda’ch offer, eich gallu a’r ardal lle rydych yn reidio – paratowch yn unol â hynny. Dylech fod yn hunan-gynhaliol bob amser, cadwch eich offer mewn cyflwr da a sicrhau bod gennych gyflenwadau priodol ar gyfer newid mewn tywydd neu amodau eraill. Mae taith dda yn foddhad i chi ac nid yn faich ar bobl eraill. Gwisgwch helmed ac offer diogelwch priodol bob amser.

Côd Cefn Gwlad

  • Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
  • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw
  • Gwarchod planhigion ac anifeiliaid, ac ewch â’ch sbwriel adref
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn
  • Ystyriwch bobl eraill

“Dilynwch y Cod Cefn Gwlad ble bynnag yr ewch. Byddwch yn cael y gorau allan o gefn gwlad ac yn helpu i’w gynnal yn awr ac ar gyfer y dyfodol. ”

Cedwch lwybrau ar agor trwy osod esiampl dda, gan feicio’n gyfrifol ac amgylcheddol-gymdeithasol.

Mae’r canlynol yn esbonio’r Côd Cenedlaethol ar gyfer mynegbyst hawliau tramwy cyhoeddus, a argymhellir gan Gyfoeth Naturiol Cymru: –

  • null

    Llwybrau cerdded

    Llwybrau cerdded ar gyfer cerddwyr yn unig.

  • null

    Llwybrau marchog

    Llwybrau marchog ar gyfer cerddwyr marchogion ceffyl a beicwyr. Rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogion.

  • null

    Cilffordd

    Traciau heb eu harwynebu fel rheol. Mae’r rhain yn agored i gerddwyr, marchogion, beicwyr a rhai cerbydau modur.

  • null

    Llwybrau gyda chaniatâd

    Nid yw’r rhain yn hawliau tramwy cyfreithiol, ond mae’r tirfeddiannwr wedi rhoi caniatâd i’r llwybr gael ei ddefnyddio am y tro.

  • null

    Llwybr Cenedlaethol

    Gelwir hefyd yn lwybr pell. Mae rhan o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhedeg trwy Sir Ddinbych. Mae rhannau byr o’r llwybr ceffyl ond mae’r rhan fwyaf ohono yn defnyddio llwybrau troed.

Dangosir llwybrau troed, llwybrau marchog a chilffyrdd ar fapiau Arolwg Ordnans. Mae’r rhain fel rheol yn gywir ond nid ydynt yn darparu tystiolaeth bod hawl tramwy gyhoeddus. Mae prawf pendant i’w gael ar y map swyddogol a gedwir gan yr Awdurdod Priffyrdd. Gellir edrych ar y map swyddogol yn y swyddfeydd Sirol a Dosbarth. Mae copïau hefyd ar gael mewn rhai Llyfrgelloedd a chan Gynghorau Cymuned.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â hawliau tramwy, yna cysylltwch gyda’r Swyddog Hawliau Tramwy yn y sir priodol, yn Sir Ddinbych  y manylion yw:

Swyddog Hawliau Tramwy, Adran Briffyrdd, Cyngor Sir Ddinbych, Caledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych, LL16 3RJ, Ffôn:01824 706800

.

  • Chwilio am Lwybr

  • Mynediad Cyfrifol

    • Ffeithiau Sgri
      Yn ogystal â bod yn gartref i blanhigion sydd yn ffynnu ar galch megis Llin y Tylwyth Teg a Phig yr Aran Ruddgoch, maent yn denu peillwyr pwysig megis y Fritheg Berlog.