header_image
Your search results

Ymwadiad

Darperir gwybodaeth, nwyddau a gwasanaethau (neu wybodaeth, nwyddau a gwasanaethau trydydd parti) gwefan ‘Beicio Gogleddd Cymru’ ‘fel y maent’ ac ni wneir unrhyw gyflwyniadau neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath boed yn benodol neu’n oblygedig, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau goblygedig o safon foddhaol, ffitrwydd i bwrpas penodol, diffyg tor-hawlfraint, cysondeb, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd ar y safle hwn yn ddi-ymyrraeth neu’n rhydd rhag gwallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y safle hwn neu’r gweinydd sy’n golygu ei fod ar gael yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli swyddogaetholdeb, cywirdeb, dibynadwyedd y deunyddiau. Ni fyddwn, mewn unrhyw achos, yn atebol am unrhyw golled neu niwed gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled neu niwed anuniongyrchol neu ddilynol, neu unrhyw golled neu niwed beth bynnag yn deillio o ddefnyddio neu golli defnydd data, neu elw, yn deillio o neu mewn cysylltiad gyda defnyddio gwefannau beiciogogleddcymru.co.uk a Chyngor Sir Ddinbych.

Bydd y Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu llywodraethu dan a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi dan y Telerau a’r Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

Mae defnydd o’r wefan hon ar gyfer eich defnydd personol ac anfasnachol chi. Ni chaniateir copïo, atgynhyrchu, ail-gyhoeddi, lawrlwytho, postio, darlledu neu drosgludo deunydd mewn unrhyw ffordd ar wahân i er eich defnydd personol ac anfasnachol chi yn eich cartref. Mae angen caniatâd beiciogogleddcymru.co.uk a Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer unrhyw ddefnydd arall.

Mae’r wefan hon yn cynnwys cysylltiadau i wefannau eraill, nad ydynt yn cael eu gweithredu gan Gyngor Sir Ddinbych. Nid yw Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am gynnwys y safleoedd hyn ac nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd a all godi mewn perthynas â defnyddio safleoedd eraill.

Rydym yn croesawu cysylltiadau gyda’n gwefan. Mae gennych ryddid i sefydlu cysylltiad hyperdestun gyda’r safle hwn cyn belled â nad yw’r cysylltiad yn datgan neu’n awgrymu unrhyw nodded o’ch safle chi gan beiciohiraethog.com, neu ymgorffori o fewn unrhyw wefan neu wasanaeth arall unrhyw eiddo deallusol beiciogogleddcymru.co.uk.

Rydym yn eich gwahodd i ddwyn i’n sylw unrhyw ddeunydd ar y wefan y credwch ei fod yn anghywir. Os gwelwch yn dda, anfonwch gopi o’r wybodaeth i ridenorthwales@gmail.com, ynghyd ag esboniad.

Mae Beicio Mynydd yn weithgaredd peryglus.

Nid yw beicio gogledd Cymru yn derbyn unrhyw am unrhyw niwed, anaf i chi neu eich parti mewn cysylltiad gyda beicio mynydd. Y mae defnyddwyr yn cymryd rhan yn y gweithgaredd ar risg ei hunain, o fewn ei gallu beicio gan sicrhau fod cyfarpar mewn cyflwr da.

  • Chwilio am Lwybr

  • Mynediad Cyfrifol

    • Ffeithiau Sgri
      Mae sgarpiau sgri calchfaen yn dirffurfiau bregus rydym yn eu cadw mewn cyflwr mor naturiol â phosibl. Mae rhai o’r enghreifftiau gorau ym Mhrydain i’w gweld yng ngogledd Cymru!