click to enable zoom
Loading Maps
We didn't find any results
View Roadmap Satellite Hybrid Terrain My Location Fullscreen Prev Next
Your search results

Yr ardal

Y mae Beicio Gogledd Cymru yn cynnig y gorau o feicio mynydd a beicio ar y ffordd yng Ngogledd Cymru, ar gyfer pob lefel o sgil a gallu. Y mae yr ardal yn cynnwys ardaloedd Bryniau Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy, Hiraethog a Dyffryn Conwy. Cynigir llwybrau drwy goedwigoedd, gweundiroedd, bryniau i ardaloedd gwastad. O feicio teulu i lwybrau du heriol a phopeth yn y canol. Heb os, mae tirlun godidog Gogledd Cymru yn leoliad perffaith ar gyfer eich gweithgaredd beicio.

Gydag amrywiaeth o ddarparwyr bwyd, diod a llety o safon yn yr ardal, bydd rhywle ar gael i stopio am ginio haeddiannol. Neu, os nad yw un diwrnod yn ddigon, beth am ddefnyddio ein tab darparwyr cyfleusterau ar y map i ddod o hyd i’r llety perffaith a gwneud penwythnos ohoni?

Bryniau Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy, Hiraethog a Dyffryn Conwy

Mae Bryniau Clwyd yn gadwyn 35 cilomedr o fryniau rhwng Prestatyn a Llandegla, ac, ynghyd â Dyffryn Dyfrdwy rhwng Corwen a’r Waun, mae’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Mae ymwelwyr yn cael eu denu i’r bryngaerau Oes yr Haearn, y clogwyni calchfaen a’r gweundir grug, ond efallai y bydd gan feicwyr fwy o ddiddordeb yn y rhwydwaith o lwybrau gwyllt, y ffyrdd tawel a’r dringfeydd ysblennydd. Wrth sôn am ddringfeydd, y tu hwnt i’r eiconig Fwlch yr Oernant a Mynydd Llantysilio y mae Dyffryn Dyfrdwy a threfi hanesyddol Llangollen a Chorwen, sy’n datgelu agweddau ar dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol cyfoethog ym mhob twll a chornel.

Mae Mynydd Hiraethog yn berffaith ar gyfer y beicwyr hynny sy’n dymuno cael blas o’r gwyllt. Mae’n dirlun o lynnoedd, coedwig a gweundir agored sy’n rhoi profiad beicio mynydd cyfnewidiol mewn amgylchedd tragwyddol. Mae llwybrau Alwen a Brenig yn llwybrau beicio mynydd i’r teulu, ar gyfer pob oedran a gallu, a fyddwch chi fyth yn bell o baned a chacen yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig.

Mae Dyffryn Conwy yn cynnig tirwedd beicio gwahanol, gyda dringfeydd uchel a disgynfeydd Coedwig Gwydyr yn mynd a chi i galon Eryri. Mae beicio heriol ar ffyrdd coedwig yn cyfnewid am ddisgyniadau ar hyd trac cul i lawr yr allt, gan blethu drwy goed a cherrig a phlymio drwy nentydd. Mae llwybr y Marin yn glasur, un o’r llwybrau pwrpasol cyntaf ar gyfer beiciau mynydd yn y DU, ac mae Llwybrau Penmachno yn cynnig 30 cilomedr o draciau beicio mynydd sy’n cael eu rhedeg yn llwyr gan wirfoddolwyr. Felly mae unrhyw roddion yn mynd at reoli’r trac ac at achosion lleol. Ar gyfer beicwyr ar y ffordd, mae llwybrau’n amrywio o Lwybr Arfordir Cymru sy’n ddi-draffig i ffyrdd gwledig, sy’n gwau mewn ac allan o bentrefi prydferth, gan gynnig dringo gwych a golygfeydd bendigedig.

Bryniau Clwyd

North Wales

Dyffryn Dyfrdwy

North Wales

Coed Llandegla

North Wales
01978 751656

Ymhellach i Ffwrdd

North Wales
  • Chwilio am Lwybr

  • Mynediad Cyfrifol

    • Ffeithiau Sgri
      Yn ogystal â bod yn gartref i blanhigion sydd yn ffynnu ar galch megis Llin y Tylwyth Teg a Phig yr Aran Ruddgoch, maent yn denu peillwyr pwysig megis y Fritheg Berlog.