header_image
Your search results

Coed Nercwys





Hawed | Less than 5km | 1hrs

Disgrifiad o'r Llwybr

Mae Coed Nercwys yn ychwanediad gwych i’r cyfleoedd beicio lleol. Mae wedi ei gynllunio i fod yn hygyrch i gerddwyr, beicwyr a marchogion, ac mae’r daith gylchol 2 filltir hon trwy’r goedwig yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd sydd eisiau rhywle diogel i feicio a magu hyder.

Mae Coed Nercwys yn gorwedd rhwng pentrefi Eryrys a Nercwys ac mae’n hawddaf ei gyrraedd oddi ar yr A494, ffordd Yr Wyddgrug i Ruthun, yng Ngwernymynydd. Mae lle i barcio am ddim ar gael ger y fynedfa ogleddol i’r goedwig.

Mae Coed Nercwys yn goedwig gyda gorffennol cyfoethog. O olion Carnedd Oes Efydd, i archaeoleg diwydiannol yn deillio o gloddio am blwm yn Oes Fictoria, hyd at heddiw fel coedwig weithredol masnachol, mae Coed Nercwys wastad wedi bod yn lle prysur. Mae’r hanes cyfoethog hwn i’w weld ar hyd y llwybr gyda chymorth byrddau dehongli ar bwyntiau o ddiddordeb. Mae’r llwybr llydan yn crwydro o gwmpas y goedwig, yn osgoi dringfeydd serth ac yn rhoi golygfeydd gwych dros Wastadedd Caer a thu hwnt.

Mae’r llwybr hwn yn un gwych i deuluoedd fwynhau beicio’n ddiogel i ffwrdd o ffyrdd prysur, ac ar yr un pryd yn rhoi cyfle i ddysgu am hanes amrywiol y goedwig unigryw hon.

Cyfeirnod Grid: SJ 218 592

3303

Ar y Map

Cyfeiriad: Gwernymynydd Grid Reference : SJ218 592
Tref:
Sir:
Ardal: North Wales
Canllaw Graddio Cymru: 5*****
Gradd: Hawdd
Uchder A Ddringwyd (Metrau): 50
Math O Llwybr: Mountain Bike Trail
Amser Y Reid (oriau): 1
Pellter: Less than 5km
Cyfleusterau’r Llwybr: Local
Hwylus i’r teulu

Compare properties

Gerliaw

+Moderate

Cilcain Byr

Mae'r reid hon o Gilcain i fyny i grib Bryniau Clwyd yn caniatáu golygfeydd gwych dros Ddy ...
Mae'r reid hon o Gilcain i fyny i grib Bryniau Clwyd yn caniatáu golygfeydd gwych dros Ddyffryn Clwyd i gyfeiriad E ...

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Lleolied / Canolfan

  • Chwilio am Lwybr

  • Mynediad Cyfrifol

    • Ffeithiau Rhostir Grug
      Mae dros 75% o boblogaeth y Rhugair Ddu yng Nghymru i’w ganfod yma ar rostir Rhiwabon.